Project Manager

  • Contract
  • Cardiff
  • Posted 8 months ago

Sustrans

Project Manager (Wales)

  • £32,145 per annum (pro rata for part time hours)
  • Ref: SUS4245
  • Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working. 
  • FTC to March 2027, with possible extension depending on funding.
  • Base: Cardiff Hwb, within a hybrid working policy.

About the role

We have a new and worthwhile opportunity as a Project Manager to join the delivery team to
increase the impact of our behaviour change work in schools across Wales. You will be working
to create a culture that makes it easier for children to walk, wheel, scoot, or cycle.

You will provide project management for ‘Active Journeys’, involving effective line management
and coordination of a project team of School Officers that deliver behavioural change
activities. 

As the Project Manager you will lead in the development of educational resources, supporting
the integration of active travel activities in schools. You will also support with organising
key events and workshops that showcase Active Travel Schools best practice. 

This role will require travel and work at locations as necessary to undertake projects on
behalf of Sustrans. Candidates should be based within the geographical area with regular travel
expected to the nominated hub/office base in Cardiff.

About you

You will be competent in leading, motivating, and managing a diverse team. Having excellent
coaching and supportive skills, you will help others’ growth and development, while placing
importance on their well-being.

You will have the ability to engage and build relationships with ease across a wide range of
people from various backgrounds and marginalised communities, and to produce inclusive content
for these diverse audiences. 

You will be able to plan & prioritise your own workload and those of others, in addition to
taking an imaginative approach to problem solving.

You will be highly skilled in project management with a meticulous approach to record keeping
and report writing.

Sustrans has a long-term commitment to being a charity for everyone – reducing inequality,
valuing diversity, enabling inclusion and ensuring all people are treated with dignity and
respect. We aim to be a truly inclusive employer and welcome applications from people from all
parts of the community, in particular from under-represented groups. 

What we offer

In return we can offer true hybrid working to suit individual circumstances and a flexible,
supportive and rewarding working environment. 

Wellbeing

  • 28 days’ leave per annum plus bank holidays for full-time working
  • Ability to buy an extra week of annual leave (pro-rata for part-time staff)
  • Staff volunteer days
  • 24/7 free, impartial and confidential support service
  • We are members of the Green Commute Initiative and Cycle Scheme who both offer cycle to
    work schemes

Financial

  • Group Personal Pension scheme with a 6% or 7% of basic salary contribution being matched by
    Sustrans
  • Bike, computer and season ticket loans
  • Discount benefits
  • London Weighting Allowance of £4,530 for all those living within a London Borough (32
    local authority districts plus the City of London)
  • Death in Service benefit – 3 x annual Salary

Family Friendly

  • Enhanced maternity and paternity pay
  • Flexible Working practices (full time hours are 37.5 per week, Monday – Friday)

Additional information

  • Closing date for the receipt of completed applications is 23:59, 29th May 2024. 
  • Interviews will take place via MS Teams on the 13th and 14th June 2024.

About Sustrans

At Sustrans you’ll be part of a movement to make it easier for people to walk and cycle.

We’re all here to change things! You’ll be part of an incredible community of talented,
passionate, creative, problem solvers all working together to change things for the better. We
act locally and think big – we have a vision of a society where the way we travel creates
healthier places and happier lives for everyone.

You’ll be questioning the status quo and daring to imagine a different world. You’ll work on
exciting, impactful projects that will stretch and empower you and you’ll be rewarded by seeing
the difference you make to people, communities and the planet.

We believe including everyone is central to who we are and what we want to achieve, we welcome
difference and pride ourselves on creating a culture where you can be yourself and where your
wellness is supported. 

You’ll be guaranteed to make friends for life and work with a team that is incredibly flexible,
supportive, ethical and fun.


Rheolwr Prosiect (Cymru)

  • £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser)
  • Cyf: SUS4245
  • Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg.
  • Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu ar
    ariannu.
  • Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid.

Ynglŷn â’r rôl 

Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect ymuno â’r tîm cyflenwi i gynyddu
effaith ein gwaith newid ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru. Byddwch yn gweithio i greu
diwylliant sy’n ei gwneud yn haws i blant gerdded, olwyno, sgwtera neu feicio.

Byddwch yn darparu rheolaeth prosiect ar gyfer ‘Teithiau Iach’, yn cynnwys gwaith rheoli
llinell effeithiol a chydlynu tîm prosiect o Swyddogion Ysgol sy’n cynnal gweithgareddau newid
ymddygiad. 

Fel Rheolwr Prosiect byddwch yn arwain ar ddatblygiad adnoddau addysgol, yn cefnogi
integreiddio gweithgareddau teithio llesol mewn ysgolion. Byddwch hefyd yn cefnogi gyda threfnu
digwyddiadau a gweithdai allweddol sy’n arddangos arfer gorau Ysgolion Teithio Llesol.

Bydd y rôl hon yn galw am deithio a gweithio mewn lleoliadau yn ôl y galw i ymgymryd â
phrosiectau ar ran Sustrans. Dylai ymgeiswyr fod wedi’u lleoli o fewn yr ardal ddaearyddol a
disgwylir ichi deithio yn rheolaidd i’r hwb/lleoliad swyddfa penodedig yng Nghaerdydd.

Amdanoch chi

Byddwch yn gymwys wrth arwain, ysgogi a rheoli tîm amrywiol. Gyda sgiliau hyfforddi a chefnogi
rhagorol, byddwch yn helpu pobl eraill i dyfu a datblygu, gan roi pwyslais ar eu llesiant ar yr
un pryd.

Bydd gennych y gallu i ymgysylltu a meithrin perthnasoedd yn rhwydd ar draws amrywiaeth eang o
bobl o gefndiroedd amrywiol a chymunedau ymylol, ac i greu cynnwys cynhwysol ar gyfer y
cynulleidfaoedd amrywiol hyn.

Byddwch yn gallu cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a rhai pobl eraill, yn
ogystal â chymryd ymagwedd ddychmygus at ddatrys problemau.

Byddwch yn fedrus iawn mewn rheoli prosiect gyda dull manwl gywir o gadw cofnodion ac
ysgrifennu adroddiadau.

Mae gan Sustrans ymrwymiad hirdymor i fod yn elusen i bawb – gan leihau anghydraddoldeb,
gwerthfawrogi amrywiaeth, galluogi cynhwysiant a sicrhau bod pawb yn cael eu trin gydag urddas
a pharch. Ein nod yw bod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol a chroesawn geisiadau gan bobl o
bob rhan o’r gymuned, yn arbennig o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Yn gyfnewid, gallwn gynnig gweithio hybrid gwirioneddol i weddu i amodau unigolion, ac
amgylchedd gwaith gwirioneddol hyblyg, cefnogol a gwobrwyol.

Llesiant

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc ar gyfer gweithwyr llawn-amser
  • Gallu prynu wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro-rata i staff rhan-amser)
  • Diwrnodau gwirfoddoli staff
  • Gwasanaeth cefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim 24/7
  • Rydym yn aelodau o’r fenter Cymudo Gwyrdd a’r Cynllun Beicio, sydd ill dau yn cynnig
    cynlluniau beicio i’r gwaith

Ariannol

  • Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda chyfraniad cyfatebol o 6% neu 7% o’r gyflog sylfaenol yn
    cael ei wneud gan Sustrans
  • Benthyciadau beic, cyfrifiadur a thocynnau tymor
  • Buddion ar ffurf disgowntiau
  • Lwfans Pwysoli Llundain o £4,530 i’r rhai hynny sy’n byw o fewn un o Fwrdeistrefi Llundain
    (32 o ardaloedd awdurdod lleol a Dinas Llundain)
  • Budd-dal Marwolaeth yn ystod Gwasanaeth – 3 x y cyflog blynyddol

Cyfeillgar i Deuluoedd

  • Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch na’r isafswm
  • Arferion gweithio hyblyg (oriau llawn-amser yw 37.5 yr wythnos, Llun i Gwener)

Gwybodaeth ychwanegol 

  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau yw 23:59, 29ain Mai 2024. 
  • Cynhelir cyfweliadau ar MS Teams ar y 13eg a’r 14eg o Fehefin 2024.

Ynglŷn â Sustrans

Yn Sustrans, byddwch yn rhan o fudiad sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. 

Rydym ni oll yma i newid pethau! Cewch fod yn rhan o gymuned anhygoel o bobl dalentog,
angerddol, creadigol sy’n datrys problemau ac sydd oll yn gweithio gyda’i gilydd i newid pethau
er gwell. Rydyn ni’n gweithredu’n lleol ac yn meddwl ar raddfa fawr – ein gweledigaeth yw
cymdeithas lle mae’r ffordd rydym yn teithio’n creu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb

Byddwch yn cwestiynu’r status quo ac yn meiddio dychmygu byd gwahanol. Byddwch yn gweithio ar
brosiectau cyffrous ac effeithiol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich grymuso a byddwch yn cael
eich gwobrwyo drwy weld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud i bobl, cymunedau a’r blaned. 

Credwn fod cynnwys pawb yn ganolog i bwy’r ydym ni a’r hyn yr ydym ni am ei gyflawni, croesawn
wahaniaeth ac rydym yn falch o’r ffaith ein bod yn creu diwylliant ble gallwch fod yn chi’ch
hunan, lle caiff eich llesiant ei gefnogi. 

Gallwch fod yn sicr o wneud ffrindiau oes a gweithio gyda thîm sy’n andros o hyblyg, cefnogol,
moesegol a llawn hwyl.

Find out more & apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (globalvacancies.org) you saw this job posting.

Job Location