Graduate Engineer / Peiriannydd Graddedig

Sustrans

Graduate Engineer

  • Wales
  • £28,831 per annum (pro rata for part time hours)
  • Ref: SUS4301
  • Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working
  • Base: Hybrid with the flexibility to work from Cardiff hub or home based
    anywhere in Wales 

About the role

This is an exciting opportunity to join our Healthier Places team. We are looking for a
Graduate Engineer, to support in the delivery of our innovative programme of people-focused
street and route design.

As a transport charity, the focus of the work will be the integration of Engineering and
Placemaking as an integral part of Active Travel infrastructure projects. The principle
objective of these projects will be to encourage higher levels of walking and cycling and the
creation of equitable and accessible environments for all. 

You will be part of a multi-disciplinary design and engineering team, working on projects
funded by Welsh Government, Transport for Wales, Welsh Local Authorities and engaging with
diverse communities across Wales.

This role will require travel and work at locations as necessary to undertake projects on
behalf of Sustrans.

We offer true hybrid working, a flexible mix of working from home and occasional travel to a
nearby office hub.

About you

You should have a degree in Civil Engineering, Traffic/Highways Engineering, or other degree
related to engineering design within the built environment (or other equivalent experience).

You will have a knowledge of inclusive design: understanding the relationship between streets
and social justice and an ability to develop creative design engagement exercises suitable for
a variety of audiences including school children.

Competence in using design software and the production of technical drawings using CAD. 

You will be skilled in demonstrating openness, inclusiveness, sensitivity and the ability to
interact respectfully with all people and understand individuals’ differences.

Sustrans has a long-term commitment to being a charity for everyone – reducing inequality,
valuing diversity, enabling inclusion and ensuring all people are treated with dignity and
respect. We aim to be a truly inclusive employer and welcome applications from people from all
parts of the community, in particular from under-represented groups. 

What we offer

In return we can offer true hybrid working to suit individual circumstances and a flexible,
supportive, and rewarding working environment. 

Wellbeing

  • 28 days’ leave per annum plus bank holidays for full-time working
  • Ability to buy an extra week of annual leave (pro-rata for part-time staff)
  • Staff volunteer days
  • 24/7 free, impartial, and confidential support service
  • We are members of the Green Commute Initiative and Cycle Scheme who both offer cycle to
    work schemes

Financial

  • Group Personal Pension scheme with a 6% or 7% of basic salary contribution being matched by
    Sustrans
  • Bike, computer and season ticket loans
  • Discount benefits
  • London Weighting Allowance of £4,530 for all those living within a London Borough (32
    local authority districts plus the City of London)
  • Death in Service benefit – 3 x annual Salary

Family Friendly

  • Enhanced maternity and paternity pay
  • Flexible Working practices (full time hours are 37.5 per week, Monday – Friday)

Additional information

  • Closing date for the receipt of completed applications is 23:59, 21 August 2024. 
  • Interviews will take place via MS Teams during the 03rd or 04th September 2024.

To apply, please complete our online application form. More details of our vacancies can be
found on our website.

About Sustrans

At Sustrans you’ll be part of a movement to make it easier for people to walk and cycle. 

We’re all here to change things! You’ll be part of an incredible community of talented,
passionate, creative, problem solvers all working together to change things for the better. We
act locally and think big – we have a vision of a society where the way we travel creates
healthier places and happier lives for everyone.

You’ll be questioning the status quo and daring to imagine a different world. You’ll work on
exciting, impactful projects that will stretch and empower you and you’ll be rewarded by seeing
the difference you make to people, communities and the planet. 

 We believe including everyone is central to who we are and what we want to achieve, we welcome
difference and pride ourselves on creating a culture where you can be yourself and where your
wellness is supported. 

You’ll be guaranteed to make friends for life and work with a team that is incredibly flexible,
supportive, ethical and fun.


Peiriannydd Graddedig

  • Cymru
  • £28,831 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser)
  • Cyf: SUS4301
  • Amser Llawn 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod trefniadau gweithio’n
    hyblyg
  • Sylfaen: Hybrid – gyda’r hyblygrwydd i weithio o’r ganolfan yng Nghaerdydd neu
    gartref yn unrhyw le yng Nghymru 

Gair am y swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm Lleoedd Iachach. Rydym ni’n chwilio am Beiriannydd
Graddedig i gefnogi’r gwaith o ddarparu ein rhaglen arloesol o ddylunio strydoedd a llwybrau
sy’n canolbwyntio ar bobl.

Fel elusen drafnidiaeth, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar integreiddio Peirianneg a Chreu
Lleoedd fel rhan annatod o brosiectau seilwaith Teithio Llesol. Prif amcan y prosiectau hyn
fydd annog pobl i gerdded a beicio’n amlach a chreu amgylcheddau teg a hygyrch i bawb. 

Byddwch chi’n rhan o dîm dylunio a pheirianneg amlddisgyblaethol, ac yn gweithio ar brosiectau
a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru. Byddwch chi
hefyd ymgysylltu â chymunedau amrywiol ledled Cymru.

Bydd y swydd hon yn golygu teithio a gweithio mewn lleoliadau yn ôl yr angen i ymgymryd â
phrosiectau ar ran Sustrans.

Rydym yn cynnig cyfleoedd gweithio hybrid go iawn, cymysgedd hyblyg o weithio gartref a
theithio i swyddfa gyfagos o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth amdanoch chi

Dylech fod â gradd mewn Peirianneg Sifil, Peirianneg Priffyrdd/Traffig, neu radd arall sy’n
gysylltiedig â’r maes dylunio peirianyddol yn yr amgylchedd adeiledig (neu brofiad cyfatebol
arall).

Bydd gennych chi wybodaeth am ddylunio cynhwysol: yn deall y berthynas rhwng strydoedd a
chyfiawnder cymdeithasol a’r gallu i ddatblygu ymarferion ymgysylltu sy’n ymwneud â dylunio
creadigol sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys plant ysgol.

Byddwch chi’n gallu defnyddio meddalwedd dylunio a chreu lluniadau technegol gan ddefnyddio
CAD. 

Byddwch chi’n fedrus o ran dangos eich bod yn agored, yn gynhwysol, yn sensitif, a byddwch
chi’n gallu rhyngweithio’n barchus â phawb a deall gwahaniaethau rhwng unigolion.

Mae gan Sustrans ymrwymiad hirdymor i fod yn elusen i bawb – gan leihau anghydraddoldeb,
gwerthfawrogi amrywiaeth, galluogi cynhwysiant a sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a
pharch. Ein nod yw bod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau gan
bobl o bob rhan o’r gymuned, yn enwedig o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. 

Dyma rydym yn ei gynnig

Gallwn ni gynnig gweithio gwirioneddol hybrid sy’n addas i’ch amgylchiadau chi ac amgylchedd
gwaith hyblyg, cefnogol sy’n rhoi boddhad. 

Llesiant

  • 28 diwrnod y flwyddyn o wyliau yn ogystal â gwyliau banc os ydych chi’n gweithio’n llawn
    amser
  • Y gallu i brynu wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
  • Diwrnodau gwirfoddoli i staff
  • Gwasanaeth cymorth diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr
    wythnos
  • Rydym yn aelodau o’r Green Commute Initiative a’r Cycle Scheme sy’n cynnig cynlluniau
    beicio i’r gwaith

Ariannol

  • Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda chyfraniad cyflog sylfaenol o 6% neu 7% a chyfraniad
    cyfatebol gan Sustrans
  • Benthyciadau ar gyfer beiciau, cyfrifiaduron a thocynnau tymor
  • Buddion o ran gostyngiadau
  • Lwfans Pwysoliad Llundain o £4,530 i bawb sy’n byw mewn Bwrdeistref yn Llundain (32 ardal
    awdurdod lleol a Dinas Llundain)
  • Budd-dal Marw yn y Swydd – 3 x cyflog blynyddol

Ystyriol o Deuluoedd

  • Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch
  • Arferion Gweithio’n Hyblyg (yr oriau llawn amser yw 37.5 yr wythnos, dydd Llun – dydd
    Gwener)

Gwybodaeth ychwanegol

  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi yw 23:59, 21 Awst 2024. 
  • Cynhelir y cyfweliadau drwy gyfrwng MS Teams ar 03 neu 04 Medi 2024.

I wneud cais, llenwch ein ffurflen gais ar-lein. Mae rhagor o fanylion am ein swyddi gwag ar
gael yn www.sustrans.org.uk/about-us/vacancies.

Gwybodaeth am Sustrans

Yn Sustrans, byddwch chi’n rhan o fudiad sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. 

Rydym ni i gyd yma i newid pethau! Byddwch chi’n rhan o gymuned anhygoel o bobl dalentog,
angerddol, greadigol, sy’n datrys problemau; pob un yn gweithio gyda’i gilydd i newid pethau er
gwell. Rydym yn gweithredu’n lleol ac mae gennym syniadau mawr. Ein gweledigaeth yw cymdeithas
lle bydd y ffordd rydym yn teithio yn creu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb.

Byddwch chi’n herio’r drefn bresennol ac yn ddigon dewr i ddychmygu byd gwahanol. Byddwch chi’n
gweithio ar brosiectau cyffrous sy’n cael dylanwad mawr ac a fydd yn eich ymestyn a’ch grymuso,
a’ch gwobr fydd gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud i bobl, cymunedau a’r blaned. 

Rydym yn credu bod cynnwys pawb yn rhan ganolog o bwy ydym ni a beth rydym ni am ei gyflawni.
Rydym yn croesawu gwahaniaethau ac yn ymfalchïo mewn creu diwylliant lle cewch fod yn chi eich
hun a lle mae eich llesiant yn cael ei gefnogi. 

Byddwch chi’n siŵr o wneud ffrindiau am oes a gweithio gyda thîm sy’n hynod o hyblyg, cefnogol,
moesegol a hwyliog.

Find out more & apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (globalvacancies.org) you saw this internship posting.

Job Location