Partnership Lead – Tree Equity Wales

The Woodland Trust

The Woodland Trust is looking for a Partnership Lead – Tree Equity (known internally as Tree
Equity Lead) in our Wales team to lead the influencing and supporting of local and planning
authorities, groups and communities across Wales so that they can realise the multiple benefits
of trees and woods.

The Role: 

  • In particular, this role will collaborate with and develop local partnerships to embed the
    protection and expansion of tree cover in local policy and practice, with a particular focus on
    protecting and increasing urban tree cover in areas of low tree equity.
  • Manage the Trust’s involvement in key partnership projects and ensure that the benefits and
    learnings of this demonstrator activity is communicated with impact across the networks of
    local decision-makers in Wales.
  • This role will be the Trust’s lead advocate for tree equity and urban trees in Wales,
    inspiring and working closely with others, both internally and externally, on urban tree
    matters. Collaborate with colleagues across the UK to maximise the Trust’s UK-wide impact and
    deliver against UK programmes such as Tree Equity.
  • Provide expert support, training and advice to local decision-making and community
    audiences on the value of trees and woods, their planting and protection and where necessary,
    procure and manage consultants, agents and technical specialists to support.
  • This role is based in Wales and will require the successful candidate to travel around the
    country.

The Candidate: 

  • You have an enthusiasm for the environment and share our core values—Grow Together,
    Explore, Focus and Make it Count.
  • Experience of working in or with local government, local agencies or communities, ideally
    in Wales.
  • You’ll have knowledge of a range of local policy issues and drivers, ideally in a Welsh
    context as well as technical knowledge related to conservation and the environment, especially
    trees and woods.
  • You’ll have a collaborative approach, with the ability to work with multiple teams,
    building relationships with both internal and external stakeholders effectively.
  • Experience of developing and managing partnerships with excellent skills in networking,
    influencing and relationship development on collaborative projects.
  • Strong communication skills, both written and verbally being able to liaise with internal
    and external stakeholders, especially volunteers using a variety of methods to suite the
    audience.
  • This role does require regular travel around Wales. A full clean UK driving licence is
    required.

Benefits & Wellbeing: Joining our team means you’ll be a big part of tackling environmental and climate issues. We take good care of our staff, offering support and training opportunities. We also offer:

  • Enhanced Employer Pension
  • Life Assurance
  • Flexible & Hybrid Working Options
  • Generous Annual Leave
  • Enhanced Parental Pay
  • Employee Assistance Programme

About Us: The Woodland Trust is the UK’s leading woodland conservation charity and is dedicated to creating a world where trees and woods thrive for both people and nature. Our mission involves engaging and inspiring individuals to contribute toward tackling the nature and climate crisis through the protection, restoration, and creation of essential woodland habitats.

Commitment to Diversity & Inclusion: To achieve our vision of a world where woods and trees thrive for people and nature, we need to better reflect society and the communities we work in. All people, no matter their background, identity, ability, or circumstance, should benefit from trees. 

People of colour and disabled people are currently under-represented across the environment and conservation sector. If you identify as a person of colour and/or disabled, we particularly encourage you to apply.

Please contact us to discuss any additional support or adjustments you may need to complete your application. 

Application Advice: For fairness we keep our candidates’ personal details
hidden from the hiring managers, so they do not see your CV until shortlisting is
completed. Make sure that your Personal Statement clearly shows how your skills and knowledge
link to the specifications in the job description and you share with us your passion for the
role. 

Even if you don’t meet every requirement of the role, we would encourage you to apply.

Apply Now: If you’re ready to make a difference and grow with us, send in your
application today. We might close the job opening early if we get a lot of applications, so
it’s a good idea to apply soon. If we do close the advert early, and you have an application in
process, we will email you prior to closing to give you time to complete.

Interviews will be held via Microsoft Teams on Monday 31st March and Wednesday 2nd April 2025.


Mae Coed Cadw yn chwilio am Arweinydd Partneriaeth – Mynediad Teg at Goed yn ein tîm yng
Nghymru i arwain y gwaith o ddylanwadu a chefnogi awdurdodau lleol ac awdurdodau cynllunio,
grwpiau a chymunedau ar hyd a lled Cymru er mwyn iddynt allu gwireddu manteision lu coed a
choedwigoedd.

Y Swydd: 

  • Yn benodol, bydd y swydd hon yn cydweithio â phartneriaethau lleol ac yn eu datblygu i
    wreiddio diogelu ac ehangu gorchudd coed mewn polisïau ac arferion lleol, gan ganolbwyntio’n
    benodol ar ddiogelu a chynyddu gorchudd coed trefol mewn ardaloedd lle nad oes cymaint o
    fynediad teg at goed.
  • Rheoli cyfranogiad yr Ymddiriedolaeth mewn prosiectau partneriaeth allweddol a sicrhau bod
    manteision a gwersi’r gweithgarwch arddangos hwn yn cael eu cyfleu’n effeithiol ar draws
    rhwydweithiau’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lleol yng Nghymru.
  • Y swydd hon fydd prif eiriolwr yr Ymddiriedolaeth dros fynediad teg at goed a choed trefol
    yng Nghymru, gan ysbrydoli a gweithio’n agos gydag eraill, yn fewnol ac yn allanol, ar faterion
    sy’n ymwneud â choed trefol. Cydweithio â chydweithwyr ar hyd a lled y DU i fanteisio i’r
    eithaf ar effaith yr Ymddiriedolaeth ar draws y DU a chyflawni yn erbyn rhaglenni’r DU fel
    Mynediad Teg at Goed.
  • Darparu cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor arbenigol i gynulleidfaoedd cymunedol a
    chynulleidfaoedd sy’n gwneud penderfyniadau lleol ar werth coed a choedwigoedd, eu plannu a’u
    hamddiffyn a, lle bo angen, caffael a rheoli ymgynghorwyr, asiantau ac arbenigwyr technegol i
    gefnogi.
  • Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yng Nghymru a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio o
    amgylch y wlad.

Yr Ymgeisydd: 

  • Mae gennych frwdfrydedd dros yr amgylchedd ac rydych yn rhannu ein gwerthoedd
    craidd—Datblygu gyda’n Gilydd, Archwilio, Canolbwyntio a Gwneud Gwahaniaeth.
  • Profiad o weithio mewn neu gyda llywodraeth leol, asiantaethau lleol neu gymunedau, yn
    ddelfrydol yng Nghymru.
  • Bydd gennych wybodaeth am amrywiaeth o faterion polisi lleol a gyrwyr, yn ddelfrydol yng
    nghyd-destun Cymru yn ogystal â gwybodaeth dechnegol sy’n ymwneud â chadwraeth a’r amgylchedd,
    yn enwedig coed a choedwigoedd.
  • Bydd gennych ddull cydweithredol, gyda’r gallu i weithio gyda nifer o dimau, gan feithrin
    perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn effeithiol.
  • Profiad o ddatblygu a rheoli partneriaethau gyda sgiliau rhagorol o ran rhwydweithio,
    dylanwadu a datblygu cysylltiadau ar brosiectau cydweithredol.
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn, ar lafar ac ar bapur, a gallu cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac
    allanol, yn enwedig gwirfoddolwyr gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n addas i’r
    gynulleidfa.
  • Mae’r swydd hon yn golygu teithio’n rheolaidd o amgylch Cymru. Rhaid cael trwydded yrru
    lawn lân y DU.

Manteision a Llesiant: Mae ymuno â’n tîm yn golygu y byddwch chi’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd i’r afael â materion amgylcheddol a hinsoddol. Rydyn ni’n gofalu’n dda am ein staff, gan gynnig cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi. Rydyn ni hefyd yn cynnig y canlynol:

  • Pensiwn Uwch y Cyflogwr
  • Yswiriant Bywyd
  • Opsiynau Gweithio Hyblyg / Hybrid
  • Gwyliau Blynyddol Hael
  • Tâl Uwch i Rieni
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Amdanom Ni: Y Woodland Trust (Coed Cadw yng Nghymru) yw prif elusen cadwraeth coetiroedd y DU, sy’n ymroddedig i greu byd lle mae coed a choedwigoedd yn ffynnu er lles pobl a byd natur. Mae ein cenhadaeth yn ymgysylltu ac ysbrydoli unigolion i gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur drwy ddiogelu, adfer a chreu cynefinoedd coetir hanfodol.

Ymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant: Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o fyd lle mae coedwigoedd a choed yn ffynnu i bobl ac i natur, mae angen i ni adlewyrchu cymdeithas a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt yn well. Dylai pob person, ni waeth beth fo’i gefndir, ei hunaniaeth, ei allu na’i amgylchiadau, elwa o goed. 

Ar hyn o bryd, mae pobl o liw a phobl anabl yn cael eu tangynrychioli ar draws y sector amgylcheddol a chadwraeth. Os ydych chi’n ystyried eich hun yn berson o liw a/neu anabl, rydyn ni’n eich annog yn benodol i gyflwyno cais.

Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gymorth ychwanegol neu addasiadau y bydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cais. 

Cyngor ar Wneud Cais: Er mwyn bod yn deg, rydyn ni hefyd yn cadw manylion
personol ein hymgeiswyr yn gudd oddi wrth y rheolwyr sy’n penodi, fel nad ydynt yn
gweld eich CV nes bydd y rhestr fer wedi’i chwblhau. Gwnewch yn siwr bod eich Datganiad
Personol yn dangos yn glir sut mae eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cysylltu â’r manylebau yn y
disgrifiad swydd a’ch bod yn rhannu eich angerdd am y swydd â ni. 

Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni holl ofynion y swydd, byddem yn eich annog i wneud cais.

Gwnewch Gais Nawr: Os ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth a datblygu gyda
ni, anfonwch eich cais atom heddiw. Mae’n bosibl y byddwn yn mynd ati i gau’r broses ymgeisio
yn gynnar os byddwn yn cael llawer o geisiadau, felly mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted â
phosibl. Os byddwn yn cau’r hysbyseb yn gynnar, a bod gennych chi gais ar ei hanner, byddwn yn
anfon e-bost atoch cyn cau er mwyn rhoi amser i chi gwblhau eich cais.

Find out more
& apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (globalvacancies.org) you saw this internship posting.

Job Location