Uwch-ddarlithydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy / Cyd-gyfarwyddwr y Rhaglen

Job title:

Uwch-ddarlithydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy / Cyd-gyfarwyddwr y Rhaglen

Company

Swansea University

Job description

Mae Prifysgol Abertawe’n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae’n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.Mae ein campysau glan môr a’n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a’n buddion, a’n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy’n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.Y rôlMae hon yn swydd barhaol gan weithio 14 awr yr wythnos.Mae’r rhaglen Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn chwilio am Uwch-ddarlithydd i sicrhau bod addysgu arbenigol yn cael ei gyflwyno’n esmwyth ar y cwrs hynod lwyddiannus hwn. Mae hon yn swydd ran-amser barhaol (2 ddiwrnod yr wythnos) ac rydym yn recriwtio o blith ystod o weithwyr proffesiynol sy’n meddu ar brofiad blaenorol o weithio yn yr amgylchedd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy.Cynlluniwyd y rhaglen astudio Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ym Mhrifysgol Abertawe ar Gampws Parc Singleton ar gyfer y rhai sy’n dymuno bod yn Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Mae’n Dystysgrif Ôl-raddedig ar lefel gradd Meistr sy’n werth 60 o gredydau sydd wedi’i ddylunio i fodloni ‘Galluoedd Allweddol’ gofynnol Llywodraeth Cymru a’r Sgiliau Allweddol mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol ar gyfer y rôl. Cyflwynwyd y rhaglen i ymateb i’r rolau a chyfrifoldebau newydd a gyflwynwyd yn y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion sy’n cael eu hystyried ar gyfer derbyniad gorfodol i’r ysbyty a/neu driniaeth a gofal ar ôl bod yn yr ysbyty neu sy’n destun y gweithredu hwnnw.Mae gan yr adran ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig proffesiynol, gan gynnwys y BSc mewn Gwaith Cymdeithasol a’r BSc mewn Polisi Cymdeithasol. Mae gan yr adran lawer o raglenni gradd ôl-raddedig, gan gynnwys MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae’r rhaglen Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy wedi’i chysylltu’n agos â’r tîm gwaith cymdeithasol. Mae rhaglenni gradd gwaith cymdeithasol yn Abertawe yn uchel eu parch ac, ar hyn o bryd, maent ymhlith y rhai gorau o‘u bath yn y DU. Mae gennym gysylltiadau cryf â phrifysgolion dramor, yn enwedig Prifysgol Houston. Mae gan yr adran ddiwylliant ymchwil bywiog, a nifer sylweddol o fyfyrwyr PhD. Mae’r swydd hefyd yn gofyn am ddarparu gweithgarwch dysgu myfyrwyr ac addysgu o ansawdd uchel, ac ymrwymiad i wella profiad myfyrwyr yn gyffredinol.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â chyd-gyfarwyddwr arall a’r Bwrdd Partneriaethau o 16 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i sicrhau bod cyfeiriad strategol a dull cyflwyno’r rhaglen yn bodloni’r gofynion a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Hefyd, bydd gofyniad i ddeiliad y swydd weithio gyda swyddog y rhaglen ar nifer o faterion allweddol â’r nod o sicrhau bod y rhaglen yn bodloni nodau’r cwrs. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu’n academaidd ac yn broffesiynol.Llwybr Gyrfa AcademaiddMae’r swydd hon ar lwybr Teaching Scholarship. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a’u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael .Cydraddoldeb, Amrywiaeth a ChynhwysiantMae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.Mae dynion wedi’u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.Sgiliau CymraegLefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 – Ychydig.Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.Gwybodaeth YchwanegolGallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Expected salary

Location

Porth, Cornwall – Bath

Job date

Thu, 26 Sep 2024 23:03:40 GMT

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (globalvacancies.org) you saw this job posting.

yonnetim

Share
Published by
yonnetim

Recent Posts

Senior Teaching/Research Technician

Job title: Senior Teaching/Research Technician Company University of Strathclyde Job description The Department of Biomedical…

21 minutes ago

Marketing Tech Operations Lead

Job title: Marketing Tech Operations Lead Company CreativeNiche Job description Location: Toronto, Ontario Type: Temporary…

30 minutes ago

Research Associate

Job title: Research Associate Company University of Glasgow Job description Job PurposeTo make a leading…

46 minutes ago

CIP : Project, Budget and Compliance Officer (N-25-06) – Lima

JOB DESCRIPTION   The International Potato Center (CIP) seeks a proactive and detail-oriented Project Budget…

1 hour ago

Oncology Surgery Scheduler in Sun City, Arizona

Primary City/State: Sun City, Arizona Department Name: Banner Staffing Services-AZ Work Shift: Day Job Category:…

1 hour ago

Research Analyst

Job Description World Resources Institute China Office (WRI China) is seeking a Research Analyst IV…

1 hour ago
If you dont see Apply Link. Please use non-Amp version